Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Mai 2022
Amser:
09.00 -
09.10
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes bod Plaid Cymru yn bwriadu newid ei haelod ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus o Cefin Campbell i Rhys ab Owen. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu i’r Ddadl Fer gael ei chynnal gan nad oedd y pwnc ar gyfer y ddadl wedi’i gyflwyno erbyn y terfyn amser.
Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 17 Mai 2022 -
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y diwygiad a ganlyn i’r busnes ar yr amserlen:
Dydd Mercher 25 Mai 2022 –
· Dadl ar Ddeiseb P-06-1249: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â syndrom tourette yng Nghymru (30 munud)
·
Amser a neilltuwyd i’r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 8 Mehefin 2022 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 erbyn bore dydd Mawrth 17 Mai 2022.
5 Amserlen y Senedd
5.1 Dyddiadau toriadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a Nadolig 2022, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a Phasg 2023.
Toriad |
Dyddiadau |
Hanner Tymor y Sulgwyn
|
Dydd Llun 30 Mai 2022 – dydd Sul 5 Mehefin 2022 |
Toriad yr Haf |
Dydd Llun 18 Gorffennaf 2022 – dydd Sul 11 Medi 2022 |
Hanner Tymor yr Hydref
|
Dydd Llun 31 Hydref 2022 – dydd Sul 6 Tachwedd 2022 |
Toriad y Nadolig
|
Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022 - dydd Sul 8 Ionawr 2022 |
*Toriad y Gwanwyn |
Dydd Llun 20 Chwefror 2023 - Dydd Sul 26 Chwefror 2023 |
*Toriad y Pasg |
Dydd Llun 3 Ebrill 2023 - dydd Sul 23 Ebrill 2023 |
* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
6 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru, i’w threfnu ar gyfer 25 Mai.
7 Unrhyw fater arall
Cynulliad Partneriaeth Seneddol
Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai Alun Davies AS a Samuel Kurtz AS yn cynrychioli’r Senedd yng nghyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE ar 12-13 Mai. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n dychwelyd at drafodaeth ynghylch aelodaeth barhaol mewn cyfarfod yn y dyfodol.